Rhoddion Nadolig 2016 | Christmas 2016 Donations

Roedd hi’n braf iawn gweld cynifer o bobl yn ein cyngerdd Nadolig a gynhaliwyd yn Eglwys Llanbadarn Fawr yn gynharach y mis hwn. Roedd hi hefyd yn braf cael cyfle i rannu lluniaeth Nadoligaidd yn neuadd yr eglwys ar ôl y cyngerdd.

Roeddem yn falch o drosglwyddo rhodd o £500 a gasglwyd yn y cyngerdd i Gronfa Goffa Eifion Gwynne. Diolch yn fawr am eich rhoddion hael.

 

Roedd y côr hefyd yn falch o roi £50 i apêl ‘Anfonwch Anrheg‘ Bwrdd Iechyd Hywel Dda drwy gymryd rhan yn nigwyddiad Nadolig y Llyfrgell Genedlaethol.

It was great to see so many people at our concert in St Padarn’s Church, Llanbadarn Fawr earlier this month, and to share some seasonal refreshments in the church hall afterwards.

We were pleased to be able to make a donation of £500 collected at the concert to the Eifion Gwynne Memorial Fund. Thank you for your kind donations.

The choir was also pleased to donate £50 to Hywel Dda Health Board’s ‘Give a Gift‘ appeal through its participation at the National Library’s Christmas event.