Steddfota

Yn ddiweddar, rydyn ni wedi cael cryn lwyddiant – a lot o hwyl – yn cystadlu yn nwy o eisteddfodau Ceredigion.

A hithau’n dathlu ei phumed pen-blwydd, roedden ni’n falch iawn o gefnogi Eisteddfod Calan Mai Aberystwyth, gan ennill y wobr gyntaf am y pedwerydd tro ar ôl blwyddyn o seibiant.

Ar ôl crwydro i dde’r sir, fe gawson ni hefyd noson i’w chofio yng Ngŵyl Fawr Aberteifi, gan ennill yr ail wobr yng nghystadleuaeth y corau cymysg. Roedd hi’n wledd o ganu corawl, ac yn bleser cael bod yng nghwmni’r pedwar côr arall. Doedd y canu yn y clwb rygbi ar ddiwedd y noson ddim yn rhy ddrwg chwaith!

Rydyn ni’n edrych ‘mlaen at ein steddfod nesa nawr. Tybed lle’r awn ni?

We have had some success recently – not to mention a lot of fun – competing at two of Ceredigion’s eisteddfodau.

Our local eisteddfod in Aberystwyth celebrated its fifth anniversary this year, and we were pleased to win the choir competition for the fourth time after a year’s break.

We also had a memorable night at Cardigan’s Gŵyl Fawr, winning the second prize in the mixed choir competition. It was a feast of choral singing, and a pleasure to be in the company of the other four choirs. The singing in the rugby club later on that evening wasn’t too bad either!

We are now looking forward to our next competition!

IMG_1475 copy
Dathlu ar ôl canu yn Aberteifi! Celebrating after singing in Cardigan!