Gwyliau haf | Summer festivals

Roedd hi’n wych gweld cerddoriaeth a’r celfyddydau’n cael lle mor amlwg yng nghalendr Aberystwyth dros yr haf, ac roedd y côr yn falch iawn o gymryd rhan mewn dwy ŵyl, MusicFest a Hen Linell Bell.

Bu’r côr yn perfformio yng Nghanolfan y Celfyddydau yn ystod MusicFest, gan ganu rhaglen o ddarnau amrywiol, o ddarnau corawl Whitacre a Lauridsen i alawon gwerin a hyd yn oed ychydig o jazz.

Bu’r côr hefyd yn perfformio ar y prom yn ystod Gwledd Gwyddno, uchafbwynt gŵyl Hen Linell Bell. Buom yn canu nifer o alawon gwerin sy’n gysylltiedig â’r môr, yn ogystal â Chwedl Seithenyn sy’n adrodd hanes boddi Maes Gwyddno – dewis addas ar gyfer yr achlysur!

It was great to see music and the arts in general taking such a prominent position in Aberystwyth over the Summer, and the choir was very pleased to be take part in two festivals – MusicFest and The Far Old Line

The choir performed in the Arts Centre during MusicFest, singing a varied programme, from choral pieces by Whitacre and Lauridsen to folk songs and even to a little jazz.

We also performed on the Prom for Gwyddno’s Feast, the high point of The Far Old Line festival, at which we sang a number of shanty-like songs, as well as Chwedl Seithenyn, which told the story of the prince’s fateful negligence in song – an apt choice for the occasion!