Mae tymor y Nadolig yn adeg brysur i bob côr – a dyw Côr ABC ddim yn eithriad. Yn wir, mae wedi dechrau yn gynt na’r arfer eleni, gyda’r côr yn canu carolau i ddiddanu ymwelwyr â’r Ffair Fwyd Nadolig yng Nghanolfan y Celfyddyau, Aberystwyth ddiwedd mis Tachwedd!
Ond, peidiwch â phoeni, os na chawsoch chi gyfle i ymuno â ni yn hwyl yr ŵyl fwyd, bydd cyfle arall i chi ddod i ddathlu’r Nadolig gyda ni, a hynny yn ein cyngerdd ‘Naw Llith a Charolau’ yn Eglwys Padarn Sant, Llanbadarn Fawr, nos Sul 10 Rhagfyr am 7.30pm.
Rydym yn estyn gwahoddiad i drigolion Aberystwyth a’r fro ymuno â ni i fwynhau noson o garolau traddodiadol a cherddoriaeth hyfryd yr Adfent gan gyfansoddwyr cyfoes, gan gynnwys James MacMillan ac Arvo Pärt. Byddwn ni hefyd yn rhoi perfformiad cyntaf fersiwn pedwar llais o ‘Alleluia’ gan Andrew Cusworth. Bydd cyfle i chi ymuno â ni i ganu ambell i garol – a bydd pwnsh poeth a mins peis ar gael i bawb ar ôl y cyngerdd.
Does dim tâl mynediad, ond byddwn yn rhoi unrhyw roddion i’r elusen leol, HAHAV – Hosbis yn y Cartref Aberystwyth.
Ond nid dyna’r cyfan – cyn i Siôn Corn ddechrau ar ei daith, byddwn ni hefyd yn canu carol neu ddwy yn noson garolau gymunedol Neuadd Rhydypennau, Bow Street, o dan arweiniad ein harweinydd ni, Gwennan Williams, nos Sul, 17 Rhagfyr.
Felly, dewch i ymuno â ni i ddathlu’r Nadolig – ac i weld a fyddwn ni’n canu eich hoff garol chi!
Ewch i’r gwaelod i gael tamed i aros pryd!
The Christmas season is a busy one for every choir, and Côr ABC is no exception. The season started early this year, with the choir singing carols to entertain visitors to the Christmas Food Fair in Aberystwyth Arts Centre at the end of November!
But, worry not if you were unable to join us for the festive fun of the food fair: there is another chance for you to celebrate Christmas with us at our ‘Nine Lessons and Carols’ concert in St Padarn’s Church, Llanbadarn Fawr, at 7.30pm on Sunday 10th December.
We extend a warm invitation to the residents of Aberystwyth and beyond to join us for an evening of traditional carols, and of advent music by living composers, including James MacMillan and Arvo Pärt. We will also be giving the first performance of the four part version of ‘Alleluia’ by Andrew Cusworth. There will be an opportunity to raise your own voice in some favourite carols, and there will be hot punch and mince pies for all after the concert.
There is no entry fee, but donations will be taken on the door on behalf of the local charity, HAHAV – Hospice at Home Aberystwyth.
What’s more, before Father Christmas begins his journey, we will be singing a carol or two in a community evening of carols at Neuadd Rhydypennau, Bow Street, under the direction of our conductor, Gwennan Williams, on Sunday 17 December.
So come and join us in celebrating Christmas and find out if we sing your favourite carol!