Mae’r côr yn gyffrous iawn o gyhoeddi lansiad CD newydd, Gŵyl y Pasg.
Mae’r ddisg yn rhan o gyfres o ddetholiadau o hoff emynau Cymru a gyhoeddir gan Curiad. Fe’i recordiwyd yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth, yn ystod y gwanwyn 2018, dan arweiniad Gwennan Williams, gyda Meirion Wynn Jones wrth yr organ. Arni, ceir pymtheg o emynau’r Pasg, gan gynnwys dwy o goralau J.S. Bach, rhai o emynau mawr Pantycelyn, a sawl descant a harmoni newydd. Ochr yn ochr â’r ddisg, ceir llyfryn sy’n cynnwys tonau a geiriau’r emynau.
Byddwn yn lansio’r CD yn swyddogol mewn digwyddiad yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth ar 5 Ebrill 2019.
Bydd y digwyddiad yn dechrau am 7.30pm, gyda’r côr yn canu rhai o’r emynau oddi ar y ddisg a detholiad o ddarnau’r Grawys a’r Pasg. Ar ôl hynny, ceir derbyniad i ddathlu’r lansiad a chyfle i brynu’r ddisg.
Rydym yn mawr obeithio y bydd modd ichi ymuno â ni i nodi’r achlysur.
Cewch hyd i fanylion y digwyddiad ar ein tudalen ‘Digwyddiadau’.
We are excited to announce the launch of our new CD, Gŵyl y Pasg.
Part of a landmark series of Welsh hymn compilations issued by Curiad Music, the disc was recorded at Capel y Morfa, Aberystwyth, during the spring of 2018, under the direction of Gwennan Williams, with Meirion Wynn Jones at the organ. Featuring fifteen Easter hymns, including two Bach chorales, some of William Williams Pantycelyn’s best-known hymns, and a number of new descants and harmonisations, the recording is accompanied by a booklet containing the music and words of each hymn.
The CD will be launched at an event held in Capel y Morfa, Aberystwyth on 5th April 2019.
The launch event will begin at 7.30pm, with the choir singing some of the hymns featured on the CD alongside a selection of Lenten and Easter music. This will be followed by a celebratory reception and an opportunity to purchase the CD.
We very much hope that you will be able to join us to mark the occasion.
Details of the event can be found on our ‘Events’ page.
