Recriwtio | Recruitment

Cor ABC Mai 2019

Mae Côr ABC yn chwilio am aelodau newydd!

Bydd pob ymarfer yn ystod mis Mai 2019 yn ymarfer agored. Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r côr a’ch bod am gael blas ar ein hymarferion, dewch i’r sesiynau hyn. Gallwch wrando neu ganu neu gymryd rhan fel y mynnoch. Byddwn yn falch iawn o’ch gweld!

Rydyn ni’n ymarfer am 7.30 bob nos Iau yn Festri Capel y Morfa, Stryd Portland, Aberystwyth (gerllaw Llyfrgell y Dref).

Cewch hyd i fwy o fanylion ar ein tudalen ‘Ymuno â ni’. Beth am gael cipolwg ar ein tudalen ‘Cwestiynau cyffredin’ i gael atebion i rai o’ch cwestiynau? Os oes gennych gwestiynau eraill, cysylltwch â ni!

Côr ABC is recruiting new members!

All our rehearsals in May 2019 will be open rehearsals, so come along to listen, to sing and to have a taster. Our rehearsals are held in Welsh and those learning Welsh are welcome to join us. We will be pleased to see you!

We rehearse at 7.30pm every Thursday evening in the vestry of Capel y Morfa, Portland Street, Aberystwyth (near the Town Library).

Further details can be found on our ‘Join us’ page. If you have any questions, contact us!