Rôl Arweinydd Cynorthwyol | Assistant Conductor role

Mae Côr ABC yn creu rôl newydd ar gyfer arweinydd cynorthwyol, ac rydym yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb yn y rôl hon.

Fel aelod newydd o dîm cerddorol y côr, caiff y rôl ei theilwra yn ôl anghenion a diddordebau’r ymgeisydd llwyddiannus a’r côr. I’r perwyl hwn, byddwn yn ystyried datganiadau o ddiddordeb gan unigolion mewn unrhyw gam o’u gyrfa ym maes cyfarwyddo corawl. Yn ddelfrydol, byddwch yn meddu ar sgiliau arwain, allweddellau a darllen sgorau, a gwybodaeth am y repertoire corawl, neu’n meithrin y sgiliau a’r wybodaeth hynny, a byddwch yn barod i weithio mewn ffordd hawddgar a hwyliog â grŵp amatur sydd am gael ei herio a’i ysbrydoli. Byddwch hefyd yn gallu gweithio gyda’r côr yn Gymraeg.

I gael mwy o wybodaeth am y rôl hon neu i fynegi diddordeb ynddi, anfonwch e-bost at ysgrifennydd y côr yn corabc10@gmail.com.

Mae’r alwad hon yn agored, a bydd yn parhau i fod yn agored hyd nes inni gael hyd i ymgeisydd addas.

Côr ABC is inviting expressions of interest in the new role of assistant conductor.

As a new addition to the choir’s musical team, the role will be tailored to suit the needs and interests of the successful candidate and the choir. As such, interest from people of all levels of experience in choral direction will be considered. Ideally, you will possess or be developing conducting, keyboard and score-reading skills, and a good knowledge of choral repertoire, and you will have a generous attitude towards working with an amateur group that wants to be challenged and inspired. You will also be able to work with the choir in Welsh.

For further information or to express an interest in this role, please email the choir’s secretary at corabc10@gmail.com.

This call is open, and will remain open until a suitable match is found.