Yn ystod 2021, mae Côr ABC wedi bod yn cydweithio â Chanolfan y Celfyddydau a’i chymuned i gynhyrchu ffilm fer newydd sy’n croesawu’r celfyddydau a chynulleidfaoedd yn ôl i’r Ganolfan ar ôl y pandemig.
Mae’r côr i’w glywed ar drac sain y ffilm yn perfformio darn newydd a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer y prosiect gan Andrew Cusworth ar sail geiriau Dafydd John Pritchard, gyda chyfeiliant pedwarawd llinynnol a thrwmpedwr o Aberystwyth.
I greu’r trac corawl, bu aelodau’r côr yn recordio’u rhannau ar wahân ar eu ffonau symudol, cyn eu hanfon i’w gwau at ei gilydd gan Andrew. Ond fe gafodd y cantorion gyfle i ddod at ei gilydd yng Nghanolfan y Celfyddydau i recordio golygfeydd ar gyfer y ffilm – y tro cyntaf i’r rhan fwyaf ohonom gwrdd (heblaw drwy sgrin) ers blwyddyn a mwy.
Gallwch wylio’r ffilm fer ar waelod y dudalen.
During 2021, Côr ABC collaborated with Aberystwyth Arts Centre and its community to produce a short film to welcome the arts and audiences back to the Centre following the pandemic.
The choir is featured on the film’s soundtrack, performing a new piece by Andrew Cusworth commissioned for the project, based on words by Dafydd John Pritchard. The choir is accompanied by a string quartet and trumpeter from Aberystwyth.
To produce the choral track, choir members recorded their parts separately on their mobile phones, before sending their parts to Andrew to be joined together. However, the singers were able to come together at the Arts Centre to record footage for the film – the first time that most of us had met (off-line) for over a year.
Watch the short film below.