Ymunwch â ni i ddathlu’r Nadolig yn ein cyngerdd sy’n seiliedig ar draddodiad yr Ŵyl Naw Llith a Charolau.
Dyddiad: Nos Sul, 11 Rhagfyr 2022 Amser: 7.30pm Lleoliad: Eglwys Padarn Sant, Llanbadarn Fawr
Mynediad am ddim
Eleni, byddwn ni’n gwahodd y gynulleidfa i roi rhoddion i Home-Start Ceredigion, elusen leol sy’n helpu teuluoedd â phlant ifanc i ymdopi â bywyd, beth bynnag a ddaw, drwy gynorthwyo rhieni wrth iddyn nhw fagu hyder a dysgu sut i greu bywydau gwell i’w plant.
Bydd pwnsh poeth a mins peis ar gael yn Neuadd yr Eglwys ar ôl y cyngerdd.
Join us to celebrate Christmas at our concert based on the tradition of the Festival of Nine Lessons and Carols.
Date: Sunday, 11 December 2022 Time: 7.30pm Venue: St. Padarn’s Church, Llanbadarn Fawr
Free entry
This year, we will be inviting donations for Home-Start Ceredigion, a local charity that assists families with young children to cope with the challenges they face, as they build their confidence and learn how to create better lives for their children.
Hot punch and mince pies will be served in the Church Hall after the concert.
Gallwch wrando ar garolau ar ein tudalen Nadolig. You can listen to carols on our Christmas page.
Ymunwch â ni i ganu carolau gyda’n gilydd o bell y Nadolig hwn. Nos Wener, 18 Rhagfyr, am 7 o’r gloch. Digwyddiad digidol am ddim i aelodau, teuluoedd, ffrindiau a chefnogwyr y côr. Mwy o fanylion a ffurflen gofrestru isod.
Join us to sing carols together from afar this Christmas. Friday, 18th December, at 7 p.m. Free digital event for choir members, families, friends and supporters. Further details and registration form below.
Flwyddyn yn ôl, pan oeddem yn paratoi ar gyfer ein cyngerdd Naw Llith a Charolau yn Eglwys Llanbadarn Fawr, doedd gan yr un ohonom ni syniad na fyddem yn gallu cynnal ein cyngerdd Nadolig blynyddol eleni.
Roedd gennym hefyd gynlluniau i ddathlu pen-blwydd y côr yn 25 y tymor hwn, ond fel cymaint o ddigwyddiadau a threfniadau eraill, mae’r pandemig wedi ein gorfodi ni i roi’r cynlluniau hynny o’r neilltu am y tro.
Ond, er gwaetha’r holl gyfyngiadau ar bron i bob agwedd ar ein bywydau eleni, ry’n ni fel côr wedi dal ati i gwrdd bob wythnos (ond dwy!) ers diwedd mis Mawrth drwy gyfrwng digidol. Ac felly, er na allwn ni estyn gwahoddiad i’n teuluoedd, ein ffrindiau a’n cefnogwyr ymuno â ni yn Eglwys Padarn Sant i ddathlu’r Nadolig eleni, mae’n teimlo’n briodol, rywsut, eich gwahodd i ymuno â ni i ganu carolau — o bell — yn ein digwyddiad Nadolig digidol.
Bydd cyfle i bawb ganu nifer o’n hoff garolau traddodiadol, gwrando ar garolau o archif y côr, a mwynhau darlleniadau gan rai o’n haelodau. Byddwn hefyd yn rhannu, am y tro cyntaf, ambell garol a recordiwyd gan aelodau’r côr dros yr wythnosau diwethaf yn eu cartrefi eu hunain wedi’u gwau at ei gilydd i greu perfformiadau rhithwir.
Byddwn yn cynnal y digwyddiad nos Wener, 18 Rhagfyr, am 7 o’r gloch drwy Zoom.
I gael linc i ymuno â’r digwyddiad, llenwch y ffurflen isod neu anfonwch e-bost at corabc10@gmail.com.
A year ago, when we were busy preparing for our Nine Lessons and Carols concert, none of us could have anticipated that we would have been unable to hold our annual Christmas concert this year.
We also had plans to celebrate the choir’s 25th anniversary this term, but those plans, like so many other events and arrangements, have had to be put on hold for now due to the pandemic.
However, despite the restrictions on so many aspects of our lives this year, we have continued to meet digitally every week (but two!) since the end of March. And, though we are unable to invite our families, friends and supporters to join us in St. Padarn’s Church to celebrate Christmas this year, it feels, somehow, fitting to invite you all to join us — from afar — to sing carols at our digital Christmas event.
As well as singing along to some of our favourite traditional carols, you will also be able to listen to carols from the choir’s archive and to hear readings given by choir members. We will also be sharing, for the first time, some carols recorded over the past few weeks by choir members in their own homes stitched together to produce virtual performances.
The event will take place on Friday, 18th December, at 7.00 p.m. via Zoom.
To receive a link to join the event via Zoom, complete the form belowor e-mail us at corabc10@gmail.com.
Although the carols and readings will be in Welsh, everyone is welcome to join us, whatever their language, to enjoy some of the music and spirit of Christmas.
Nid oes modd cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn mwyach. Registration for this event is now closed.
Byddwn yn defnyddio’r manylion y byddwch yn eu rhoi i ni er mwyn anfon linc i’r digwyddiad atoch drwy’r e-bost. Ni fyddwn yn eu defnyddio at unrhyw ddiben arall nac yn eu rhannu â neb arall.
Byddwn yn anfon y linc allan yn ystod yr wythnos cyn y digwyddiad. Edrychwch yn eich ffolder sbam os na fyddwch wedi cael linc erbyn dyddiad y digwyddiad.
Bydd hwn yn ddigwyddiad rhithwir byw ac fe all fod problemau technegol, ond fe wnawn ein gorau glas i’w datrys. Ry’n ni’n edrych ymlaen at weld sut bydd popeth yn gweithio. Dylai fod yn hwyl!
Mae’n bosibl y byddwn yn recordio’r digwyddiad ar gyfer ein harchif ni, ond ni fyddwn yn darlledu’r recordiad hwnnw.
We will use the details provided by you to send you a link to the event via e-mail. We will not use your personal data for any other purpose and we will not share them with anyone else.
We will be sending the link out during the week leading up to the event.Do check your spam folder if you have not received your link by the day of the event.
This will be a live virtual event and there may be some technical issues, which we will do our best to resolve. We look forward to seeing how it all works. It should be fun!
We may record the event for our archive, but we will not broadcast that recording.
Nos Wener 21 Chwefror, bydd Côr ABC yn ymuno ag Al Lewis yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar daith ‘Te yn y Grug’ i lansio ei albym newydd o ganeuon o’r sioe a berfformiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Conwy yn 2019. Ry’n ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r daith.
Dyddiad: 21 Chwefror 2020
Amser: 8pm
Lleoliad: Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Tocynnau ar gael o’r swyddfa docynnau neu o wefan y Ganolfan.
Mynnwch docyn!
On Friday 21st February, Côr ABC will be joining Al Lewis at Aberystwyth Arts Centre on his ‘Te yn y Grug’ tour to launch his new album of songs from the show performed at last year’s National Eisteddfod in Conwy. We are delighted to be part of the tour.
Date: 21st February 2020
Time: 8pm Venue: Great Hall, Aberystwyth Arts Centre
Tickets available from the box office or from the Arts Centre’s website.
Dewch i ddathlu’r Nadolig gyda ni yn ein cyngerdd o garolau a cherddoriaeth yr Adfent yn seiliedig ar draddodiad yr Ŵyl Naw Llith a Charolau.
Dyddiad: Nos Sul, 8 Rhagfyr 2019
Amser: 8.00pm
Lleoliad: Eglwys Padarn Sant, Llanbadarn Fawr
Mynediad am ddim
Casgliad i Hosbis Dydd HAHAV
Pwnsh poeth a mins peis
Join us to celebrate the festive season in a concert of carols and Advent music based on the tradition of the Festival of Nine Lessons and Carols.
Date: Sunday, 8th December 2019
Time: 8.00pm
Venue: St. Padarn’s Church, Llanbadarn Fawr Free entry
Collection for HAHAV Day Hospice Hot punch and mince pies
Ymunwch â ni mewn digwyddiad i lansio CD, Gŵyl y Pasg, ac i fwynhau detholiad o emynau oddi ar y ddisg, ynghyd â darnau cyfnod y Grawys a’r Pasg.
Dyddiad: Nos Wener, 5 Ebrill 2019
Amser: 7.30pm
Lleoliad: Capel y Morfa, Stryd Portland, Aberystwyth
Mynediad am ddim. Croeso i bawb.
Ceir mwy o fanylion am y ddisg ar y dudalen ‘Newyddion’.
Join us at an event to launch our new disc, Gŵyl y Pasg, and to enjoy a programme featuring a selection of hymns from the disc, alongside Lenten and Easter pieces.
Date: Friday, 5th April 2019 Time: 7.30pm Venue: Capel y Morfa, Portland Street, Aberystwyth
Free admission. All welcome.
Further details about the disc can be found on our ‘News’ page.
Dewch i ddathlu’r Nadolig gyda ni mewn cyngerdd o garolau a cherddoriaeth yr Adfent yn seiliedig ar draddodiad yr Ŵyl Naw Llith a Charolau.
Dyddiad: Nos Sul, 16 Rhagfyr 2018
Amser: 7.30pm
Lleoliad: Eglwys Padarn Sant, Llanbadarn Fawr
Mynediad am ddim gyda chasgliad i HAHAV Hosbis yn y Cartref Aberystwyth
Pwnsh poeth a mins peis
Join us to celebrate the festive season in a concert of carols and Advent music based on the tradition of the Festival of Nine Lessons and Carols.
Date: Sunday, 16th December 2018
Time: 7.30pm
Venue: St. Padarn’s Church, Llanbadarn Fawr
Free entry with a collection for HAHAV Hospice at Home Aberystwyth
Hot punch and mince pies