
Cynhelir gweithdy canu am ddim i ddynion yn unig, nos Fercher, 4 Gorffennaf 2018 yn Aberystwyth.
Nod y gweithdy yw rhoi cyfle i ddynion ganu gyda’i gilydd mewn awyrgylch hwyliog ac anffurfiol.
Mae’r gweithdy’n agored i ddynion o bob oed, p’run a ydynt yn hen gyfarwydd â chanu mewn grŵp neu erioed wedi canu mewn grŵp o’r blaen. Does dim rhaid gallu darllen cerddoriaeth.
Bydd y gweithdy’n dechrau gyda rhai o’r hanfodion, cyn bwrw ymlaen i ganu mewn harmoni.
Mewn byd sydd mor brysur, bydd yn gyfle i ymlacio ac i gymdeithasu, gan fwynhau creu cerddoriaeth gyda’n gilydd.
Bydd y gweithdy’n cael ei arwain gan Gwennan Williams sydd wrth ei bodd yn meithrin lleisiau cantorion corawl newydd a phrofiadol fel ei gilydd, gan roi hyder iddynt a sicrhau eu bod yn cael pleser o ganu.
Mae Côr ABC yn trefnu’r digwyddiad gan obeithio y bydd rhai o’r dynion yn ystyried ymuno â’r côr ar ôl y profiad hwn, ond does dim rheidrwydd ar neb i wneud hynny. Nod y gweithdy yw rhoi cyfle i’r dynion gael hwyl a chanu gyda’i gilydd.
Ar ôl y gweithdy, bydd cyfle i roi’r byd yn ei le dros lymaid yn Sgolars.
Dyddiad: Nos Fercher, 4 Gorffennaf 2018
Amser: 7.30pm
Lleoliad: Festri Capel y Morfa, Stryd Portland, Aberystwyth, SY23 2NL
Os oes gennych gwestiynau, anfonwch e-bost at: corabc10@gmail.com
Gallwch gofrestru ymlaen llaw drwy anfon e-bost i’r cyfeiriad uchod neu gallwch ddod i’r festri ar y noson.