Dychwelyd i Eglwys Padarn Sant i ddathlu’r Nadolig

Hir yw pob aros ac, ar ôl bwlch o dair blynedd oherwydd y pandemig, bydd Côr ABC o Aberystwyth yn dychwelyd i Eglwys Padarn Sant, Llanbadarn Fawr, nos Sul, 11 Rhagfyr am 7.30pm, i gynnal cyngerdd carolau yn seiliedig ar draddodiad yr Ŵyl Naw Llith a Charolau.

Mae’r côr yn estyn gwahoddiad i drigolion Aberystwyth a’r cylch ymuno ag ef i ddathlu’r Nadolig, drwy fwynhau rhaglen o garolau traddodiadol a cherddoriaeth hen a newydd yr Adfent dan arweiniad Gwennan Williams ac i gyfeiliant Louise Amery (piano) ac Andrew Cusworth (organ), ynghyd â darlleniadau gan rai o aelodau a chyfeillion y côr. Bydd cyfle hefyd i’r gynulleidfa ymuno â’r côr i ganu carol neu ddwy ac i fwynhau pwnsh poeth a mins peis ar ôl y cyngerdd.

Côr ABC yn ymarfer yn Eglwys Padarn Sant cyn cyngerdd Naw Llith a Charolau 2019

“Mae’r noson Naw Llith a Charolau wedi datblygu i fod yn un o hoff ddigwyddiadau a thraddodiadau’r côr,” meddai arweinydd y côr, Gwennan Williams. “Eleni, mae’r côr yn edrych ymlaen yn fwy nag erioed i ddod ynghyd am y tro cyntaf ers 2019 i ganu carolau a cherddoriaeth hyfryd yr Adfent yn awyrgylch unigryw Eglwys Padarn Sant, a hynny ar noson sy’n nodi dechrau cyfnod y Nadolig i lawer ohonon ni.”

Bydd mynediad am ddim, gyda chasgliad er budd Home-Start Ceredigion, elusen leol sy’n helpu teuluoedd â phlant ifanc i ymdopi â bywyd, beth bynnag a ddaw, drwy gynorthwyo rhieni wrth iddyn nhw fagu hyder a dysgu sut i greu bywydau gwell i’w plant.

Manylion y digwyddiad fan hyn: Naw llith a charolau | Nine lessons and carols

Côr ABC yn dychwelyd i’r llwyfan | Côr ABC returns to the stage

Rhyw ddwy flynedd a deufis ers ei gyngerdd diwethaf ar noson agoriadol taith Te yn y Grug y canwr-gyfansoddwr, Al Lewis, mae Côr ABC yn paratoi i ymddangos yn ei gyngerdd cyntaf ers y pandemig. Ac mae’n gyd-ddigwyddiad hapus y bydd y côr yn camu’n ôl i’r llwyfan yng nghwmni Al, wrth iddo yntau ailgydio yn y daith a ddaeth i ben yn gynnar yn y gwanwyn 2020.

Mae gan y côr atgofion melys o’r cyngerdd yn y Neuadd Fawr nôl ym mis Chwefror 2020, ac mae’n edrych ymlaen at greu atgofion newydd, yn Theatr y Werin y tro hwn, pan fydd yn ailymuno ag Al i berfformio ei albym gysyniadol wych, Te yn y Grug, yn ei chyfanrwydd.

Yn ôl ym mis Mawrth eleni, bu’r côr yn canu emyn mawr Joseph Parry, Aberystwyth, i gyfeiliant fan hufen iâ a thonnau’r môr yn harbwr Aberystwyth ar ddiwedd taith Iâs a drefnwyd gan Eddie Ladd, ac roedd yr aelodau wrth eu bodd o weld bod cynifer o gefnogwyr y côr wedi ymgynnull i’w glywed yn canu y noson honno.

Nawr, mae’n edrych ymlaen at berfformio i gynulleidfa eto nos Sadwrn, 7 Mai yng Nghanolfan y Celfyddydau. Bydd y cyngerdd yn cynnwys setiau unigol gan Al Lewis a Gwenno Morgan, cyn i’r côr ymuno ag Al i berfformio Te yn y Grug.

Mae tocynnau ar gael o swyddfa docynnau a gwefan Canolfan y Celfyddydau.

Two years and two months since its last concert on the opening night of singer-songwriter Al Lewis’ Te yn y Grug tour, Côr ABC is preparing to appear in its first concert since the pandemic. It is a happy coincidence that the choir will return to the stage alongside Al, who is resuming his tour that was cut short in spring 2020.

The choir has happy memories of the concert in the Great Hall back in February 2020, and it is looking forward to creating more memories, in Theatr y Werin this time, where it will join Al to perform his brilliant concept album, Te yn y Grug, in its entirety.

Earlier this year, the choir sang Joseph Parry’s hymn, Aberystwyth, to the accompaniment of an ice cream van and crashing waves in Aberystwyth harbour at the end of the Iâs tour through Ceredigion, arranged by Eddie Ladd, and choir members were delighted that so many of its supporters had gathered in the harbour to hear it sing.

Now, the choir is looking forward to singing to a live audience again on Saturday, 7th May, at Aberystwyth Arts Centre. The concert will include solo sets by Al Lewis and Gwenno Morgan, before the choir joins Al on stage to perform Te yn y Grug.

Tickets are available from the Aberystwyth Arts Centre website and box office.

Côr ABC yn perfformio gydag Al Lewis ym mis Chwefror 2020 | Côr ABC performing with Al Lewis in February 2020

y Ganolfan

Yn ystod 2021, mae Côr ABC wedi bod yn cydweithio â Chanolfan y Celfyddydau a’i chymuned i gynhyrchu ffilm fer newydd sy’n croesawu’r celfyddydau a chynulleidfaoedd yn ôl i’r Ganolfan ar ôl y pandemig.

Mae’r côr i’w glywed ar drac sain y ffilm yn perfformio darn newydd a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer y prosiect gan Andrew Cusworth ar sail geiriau Dafydd John Pritchard, gyda chyfeiliant pedwarawd llinynnol a thrwmpedwr o Aberystwyth.

I greu’r trac corawl, bu aelodau’r côr yn recordio’u rhannau ar wahân ar eu ffonau symudol, cyn eu hanfon i’w gwau at ei gilydd gan Andrew. Ond fe gafodd y cantorion gyfle i ddod at ei gilydd yng Nghanolfan y Celfyddydau i recordio golygfeydd ar gyfer y ffilm – y tro cyntaf i’r rhan fwyaf ohonom gwrdd (heblaw drwy sgrin) ers blwyddyn a mwy.

Gallwch wylio’r ffilm fer ar waelod y dudalen.

During 2021, Côr ABC collaborated with Aberystwyth Arts Centre and its community to produce a short film to welcome the arts and audiences back to the Centre following the pandemic.

The choir is featured on the film’s soundtrack, performing a new piece by Andrew Cusworth commissioned for the project, based on words by Dafydd John Pritchard. The choir is accompanied by a string quartet and trumpeter from Aberystwyth.

To produce the choral track, choir members recorded their parts separately on their mobile phones, before sending their parts to Andrew to be joined together. However, the singers were able to come together at the Arts Centre to record footage for the film – the first time that most of us had met (off-line) for over a year.

Watch the short film below.

Gwobrau Cerddoriaeth Glasurol Ddigidol 2020 | Classical Music Digital Awards 2020

Prosiect côr rhithwir yn un rhith yn ennill gwobr cymeradwyaeth uchel |
yn un rhith virtual choir project wins highly commended award

Ar Nos Galan 2020, enillodd prosiect côr rhithwir ‘yn un rhith – yn gôr o hyd’ wobr cymeradwyaeth uchel yn y categori ‘Prosiect Cyfnod Clo – Côr’ yng Ngwobrau Cerddoriaeth Glasurol Ddigidol 2020. Roedd y digwyddiad hwn a ffrydiwyd yn fyw ar y we yn dathlu ymdrechion ymarferwyr a sefydliadau ym maes cerddoriaeth glasurol i ymateb yn gadarnhaol i heriau 2020, ac yn taflu goleuni ar lawer o brosiectau cerddorol sydd wedi torri tir newydd yn ystod y cyfnod hwn. Roedd hefyd yn codi arian ar gyfer elusen Help Musicians.

Bu Côr ABC yn rhan o brosiect ‘yn un rhith’, ochr yn ochr â Chôr Dinas, i gynhyrchu perfformiad rhithwir o ddarn newydd o’r un enw gan Andrew Cusworth a oedd yn gosod geiriau Dafydd John Pritchard.

Ry’n ni wrth ein bodd bod y prosiect wedi ennill y wobr hon, ac ry’n ni’n falch bod prosiect a ysbrydolwyd gan ymdrechion dau gôr cymunedol i gefnogi eu haelodau ac i roi cyfle iddynt barhau i ganu wedi cael ei gydnabod fel hyn.

I gael gwybod mwy am y prosiect, ac i greu eich perfformiad rhithwir eich hun o’r darn, ewch i wefan y prosiect.

On New Year’s Eve, 2020, ‘yn un rhith – a choir still’, won an highly commended award in the ‘Lockdown project – choir’ category of the Classical Music Digital Awards 2020. This live-streamed event celebrated the efforts of classical music practitioners and organisations to respond positively to the challenges of 2020, and shone a light on numerous digital music projects and innovations, whilst raising money for Help Musicians.

Côr ABC participated in the ‘yn un rhith’ project, alongside Côr Dinas, to produce a virtual performance of a new piece of the same name by Andrew Cusworth, setting words by Dafydd John Pritchard.

We are delighted that the project has received this award, and that a project inspired by the efforts of two community choirs to support and keep their members singing together has received this recognition.

To find out more about the project, and to produce your own virtual performance of the piece, visit the project website.

Cyflwyno £500 i wefan iechyd meddwl | £500 donation to mental health website

Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2020, mae Côr ABC yn falch iawn o gyflwyno £500 i meddwl.org, gwefan sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr i ddarparu gwybodaeth am faterion iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Fe godwyd yr arian drwy werthu printiau o waith celf gan yr arlunydd, Sioned Glyn, a gomisiynwyd gan Gôr ABC a Chôr Dinas yn sgil prosiect côr rhithwir yn un rhith i berfformio darn newydd sbon o’r un enw gan y cyfansoddwr, Andrew Cusworth, ar eiriau englyn y prifardd, Dafydd John Pritchard.

Dywedodd Gwennan Williams, arweinydd Côr ABC: “Roedden ni i fod i gymryd rhan mewn cyngerdd i godi arian i wefan Meddwl yn ôl ym mis Mehefin, ond gan fod y cyngerdd hwnnw wedi gorfod cael ei ganslo oherwydd y pandemig, ry’n ni’n falch iawn ein bod ni nawr yn gallu cyflwyno’r rhodd hwn a godwyd drwy ein prosiect yn ystod y cyfnod clo i’r wefan.

“Mae’r prosiect côr rhithwir a’n hymarferion rhithwir wythnosol wedi bod yn werth y byd i lawer ohonom dros y misoedd diwethaf, ac mae’n briodol bod y côr wedi dewis cefnogi gwefan sy’n sicrhau bod mwy o adnoddau a gwybodaeth am iechyd meddwl ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg drwy ei weithgareddau yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Ychwanegodd Andrew Cusworth, y cyfansoddwr ac arweinydd y prosiect: “Yr effaith bositif ar ein hiechyd meddwl yw un o’r nifer fawr o resymau pam ein bod ni’n canu mewn corau. Yn ystod y cyfnod clo, bu’n rhaid i gorau gael hyd i ffyrdd newydd o barhau i gwrdd, nid dim ond am resymau cerddorol, ond hefyd am resymau cymdeithasol a chymunedol, a hynny fel modd o godi calon yr aelodau, cadw mewn cysylltiad, a gofalu am ei gilydd.

“A hithau’n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, mae’n ein hatgoffa eto o bwysigrwydd cerddoriaeth yn ein bywydau ni, a’i phwysigrwydd i’n lles ni. Mae’r rhodd hwn i wefan Meddwl yn gydnaws ag amcanion ein prosiect, ac ry’n ni hefyd yn falch o estyn y prosiect er mwyn i gorau eraill greu eu perfformiadau rhithwir eu hunain o’r darn tra mae’r cyfyngiadau’n parhau.”

Cewch hyd i fwy o wybodaeth am y prosiect côr rhithwir ar wefan ynunrhith.cymru a gallwch hefyd wylio’r perfformiad fan hyn.

On World Mental Health Day 2020, Côr ABC is delighted to present £500 to meddwl.org, a volunteer-run website providing information on mental health issues through the medium of Welsh.

The sum was raised from the sale of prints of artwork by artist Sioned Glyn commissioned by Côr ABC and Côr Dinas in relation to their yn un rhith virtual choir project to perform a new piece of the same name by composer, Andrew Cusworth, who set an englyn by crowned bard, Dafydd John Pritchard.

Gwennan Williams, conductor of Côr ABC said: “We were due to take part in a concert in support of the Meddwl website back in June and, since that concert had to be cancelled due to the pandemic, we are very pleased to present this sum raised through our lockdown project to the website at this challenging time.

“The virtual choir project and our weekly virtual rehearsals have been an important lifeline for many of us in recent months, and it is fitting that the choir has chosen to support a voluntary organisation providing much-needed mental health resources in Welsh through its lockdown activities.”

Composer and project leader, Andrew Cusworth, added: “One of the many reasons that we sing in choirs is for the positive effect it has on our mental health. During the lockdown, choirs had to find new ways of continuing to gather not only for musical reasons but for social and community ones, and as a means of raising the spirits of their members, staying in touch, and looking out for one another.

“On World Mental Health Day, we are reminded again of the importance of music in our lives and in our wellbeing. The donation to the Meddwl website resonates with the aims and outcomes of our project, which we have now opened up to other choirs to enable them to produce their own virtual performances of the piece while restrictions continue.”

Further information about the virtual choir project can be found on the website ynunrhith.wales and you can also watch the performance here.

Gwaith celf Yn Un Rhith gan Sioned Glyn; geiriau Dafydd John Pritchard Yn Un Rhith artwork by Sioned Glyn; words by Dafydd Johnn Pritchard

yn un rhith: gwaith celf | artwork

Gwaith celf Yn Un Rhith gan Sioned Glyn; geiriau Dafydd John Pritchard Yn Un Rhith artwork by Sioned Glyn; words by Dafydd Johnn Pritchard

Mae’n anodd credu bod pum mis wedi mynd heibio ers i ni allu cwrdd ddiwethaf yn yr un ystafell i ymarfer. Drwy gydol y cyfnod hwnnw, ry’n ni wedi bod yn cwrdd o bell ar-lein i ganu ein hoff ddarnau, i ddysgu darnau newydd, ac i gymdeithasu â’n gilydd.

Heb os, yr uchafbwynt i ni dros y misoedd diwethaf oedd prosiect côr rhithwir yn un rhith – prosiect lle buom yn cydweithio â Chôr Dinas, côr merched Cymry Llundain, i berfformio darn newydd sbon o’r un enw gan y cyfansoddwr, Andrew Cusworth, ar eiriau englyn gan Dafydd John Pritchard.

I ddiolch i’r tîm creadigol am eu gwaith ar y prosiect, mae Côr ABC a Chôr Dinas wedi comisiynu gwaith celf gan yr arlunydd, Sioned Glyn. Gyda geiriau’r englyn wrth galon y gwaith, mae Sioned wedi creu triptych – tri darlun sy’n cysylltu’r dirwedd rhwng Aberystwyth a Llundain, gyda’r golygfeydd, fel y corau, yn creu un cyfanwaith er eu bod ar wahân.

Cyflwynwyd y darluniau gwreiddiol i aelodau’r tîm creadigol yn ddiweddar, ac mae printiau o’r golygfeydd unigol ar gael nawr i’w harchebu drwy’r côr: maint A4 am £30 yr un a maint A5 am £20 yr un (y ddau bris yn cynnwys mount). I gael mwy o wybodaeth neu i archebu print, e-bostiwch corabc10@gmail.com erbyn 24 Awst.

Gallwch wylio ein perfformiad rhithwir o yn un rhith fan hyn.

It is hard to believe that five months have passed since we were last able to meet together in the same room to practise. Throughout this period, we have been meeting online from afar to sing some of our favourite familiar pieces, to learn new pieces, and to socialise with one another.

Without doubt, the highlight of the last months was taking part in a virtual choir project, yn un rhith – a project in which we worked with Côr Dinas, the women’s choir of the London Welsh, to perform a new piece of the same name by the composer, Andrew Cusworth, who set an englyn (a form of Welsh poetry) by Dafydd John Pritchard.

To thank the creative team for their work on the project, Côr ABC and Côr Dinas commissioned an artwork by the artist, Sioned Glyn. With Dafydd’s englyn at the heart of the work, Sioned created a triptych – three landscape scenes connecting Aberystwyth and London, with the separate scenes, like the choirs, creating a single work of art.

The original artworks were recently presented to the members of the creative team, and prints of the individual scenes are now available to order through the choir: A4 at a cost of £30 each and A5 at a cost of £20 each, with both prices including mounts. For more information or to order a print, please email corabc10@gmail.com by the 24th of August.

You can watch our virtual performance of yn un rhith here.

yn un rhith: prosiect côr rhithwir | virtual choir project

Bydd darn newydd a ysgrifennwyd gan y cyfansoddwr, Andrew Cusworth, yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl cyflwyno’r cyfyngiadau symud yn cael ei berfformio am y tro cyntaf nos Wener 22 Mai mewn digwyddiad YouTube Première gan gôr cymysg o Aberystwyth, Côr ABC, a chôr merched Cymry Llundain, Côr Dinas.

Yn ôl ym mis Mawrth, bu’n rhaid i ymarferion côr wythnosol ddod i ben yn ddisymwth wrth i COVID-19 ledaenu o amgylch y byd ac wrth i lywodraethau gyflwyno cyfyngiadau ar bob agwedd ar fywyd bob dydd. Yn sgil hyn, fe ddechreuodd Côr ABC a Côr Dinas gwrdd ac ymarfer o bell, gan roi cyfle i’r aelodau gynnal eu cysylltiadau cymdeithasol, yn ogystal â pharhau i ganu a chreu cerddoriaeth. Fe ddaeth yr ymarferion hyn, eu hunain, yn ysbrydoliaeth ar gyfer darn corawl newydd a phrosiect côr rhithwir.

Ar ôl un o ymarferion Côr ABC, fe ysgrifennodd un o’r aelodau, y Prifardd Dafydd John Pritchard, englyn am y profiad a’i bostio ar Twitter. Ar ôl darllen y gerdd, fe aeth Andrew Cusworth, un o’i gyd-aelodau ac arweinydd Côr Dinas, ati i’w gosod i gerddoriaeth, gan greu darn i’r ddau gôr ei ganu gyda’i gilydd yn rhithwir.

Wrth siarad am ei ddarn newydd, yn un rhith, dywedodd Andrew: “Mae’r darn, sy’n seiliedig ar gerdd Dafydd, yn disgrifio’r ffordd rydyn ni i gyd, er o bell, yn dal i fod yn unedig yn ein nod, fel cymuned, o ganu – gan ddatgan ein bod ni’n gôr o hyd.”

Dros yr wythnosau diwethaf, mae aelodau’r ddau gôr wedi bod yn ffilmio’u hunain yn canu’r darn, ac mae’r holl fideos unigol yn cael eu gwau at ei gilydd i greu perfformiad côr rhithwir gan Robert Russell sydd hefyd yn cyfeilio i’r corau yn y perfformiad.

Wrth ddisgrifio nod y prosiect, dywedodd Gwennan Williams, arweinydd Côr ABC: “Wrth fynd ati i roi’r prosiect ar waith, ein gobaith ni, fel tîm, oedd y bydden ni’n creu rhywbeth y byddai ein haelodau’n mwynhau ei wneud, a rhywbeth y bydd pob un ohonon ni’n gallu edrych ‘nôl arno, rywbryd yn y dyfodol, i’n hatgoffa ein bod wedi gwneud rhywbeth positif mewn cyfnod anodd.”

“Ymhlith yr holl resymau pam ein bod ni’n canu mewn corau mae’r effaith bositif ar ein hiechyd meddwl,” meddai Andrew Cusworth. “Wrth ryddhau perfformiad cyntaf fy narn newydd yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae’n ein hatgoffa bod cerddoriaeth yn rhan bwysig o’n bywydau ynddi’i hun, a’i bod hefyd yn bwysig i’n lles.”

Bydd perfformiad cyntaf yn un rhith gan gôr cyfun Côr ABC a Côr Dinas yn digwydd nos Wener 22 Mai am 7.00pm mewn digwyddiad première ar YouTube. Mae mwy o fanylion ar gael ar wefan y prosiect yn https://ynunrhith.cymru/.

A new choral piece, written during the first few weeks of lockdown by composer, Andrew Cusworth, will be given its first virtual performance in a YouTube Première event by Aberystwyth based mixed choir, Côr ABC, and the London Welsh women’s choir, Côr Dinas on Friday 22nd May.

Weekly choral rehearsals had come to an abrupt end back in March as COVID-19 spread around the world and governments introduced restrictions on all aspects of daily life. In response to this, Côr ABC and Côr Dinas began to meet and rehearse virtually, enabling their members not only to continue to sing and make music, but also to maintain their social connections. These virtual rehearsals proved to be an inspiration for a new piece and a virtual choir project.

After one of Côr ABC’s rehearsals, choir member and crowned bard, Dafydd John Pritchard, wrote an englyn about the experience and posted it on Twitter. Fellow choir member and conductor of Côr Dinas, Andrew Cusworth, saw the poem and set it to music for both choirs to sing together virtually.

Speaking about his new piece, yn un rhith, Andrew said: “The piece, based on Dafydd’s poem, sings of how, albeit set apart by events, we are still united in our aims, as a community, in singing – of how we are still a choir.”

Over recent weeks, members of both choirs have been filming themselves singing the piece, and all those individual videos are now being edited together to create a virtual choir performance by Robert Russell, who will also be accompanying the performance.

Describing the aim of the project, Gwennan Williams, conductor of Côr ABC, said: “Our aim, as a team who put the project together, was to create an enjoyable experience for our members, and something that we can all look back on, at some point in the future, as a reminder of something positive to come out of difficult times.”

“One of the many reasons that we sing in choirs is for the positive effect it has on our mental health,” added Andrew Cusworth. “As we release the first performance of my new piece during Mental Health Awareness Week in the UK, we are reminded of the importance of music in our lives, and in our human well-being.” 

The first performance of yn un rhith by the combined choir of Côr ABC and Côr Dinas will take place on YouTube at 7.00pm on Friday 22nd May. Further details can be found on the project website: https://ynunrhith.wales/.

Ymarferion rhithwir Côr ABC a Chôr Dinas

Ymarferion rhithwir | Virtual rehearsals

ymarfer rhithwir côr abc
Ymarfer rhithwir | Virtual rehearsal

Yn sgil y cyfyngiadau a gyflwynwyd ym mis Mawrth wrth i COVID-19 ledaenu o amgylch y byd, fe fu’n rhaid i Gôr ABC, fel pob côr arall, roi’r gorau i gwrdd i ymarfer bob wythnos yng Nghapel y Morfa. Ond, gan wybod bod y côr yn gymuned bwysig i’r aelodau a bod cerddoriaeth yn codi calon ac yn lleddfu gofid, fe aeth ein harweinydd, Gwennan Williams, ati i drefnu ymarferion rhithwir. Ac mae’r côr wedi dal ati i gwrdd – o bell – bob nos Iau yn ôl yr arfer i ganu’n hoff ddarnau, i ddysgu cerddoriaeth newydd, ac i gadw mewn cysylltiad â’n gilydd.

Due to the restrictions introduced in March as COVID-19 spread around the world, like all other choirs, Côr ABC had to abandon its weekly rehearsals in Capel y Morfa. However, aware of the fact that the choir is an important community for its members and of the power of music to lift spirits and bring comfort in difficult times, our director, Gwennan Williams, set up virtual rehearsals. And the choir has continued to meet – from afar – every Thursday evening as usual to sing repertoire pieces, to learn new music, and to keep in touch with each other.

Te yn y Grug: mewn lluniau | in pictures

Nos Wener 21 Chwefror 2020, fe ymunodd Côr ABC ag Al Lewis a’i fand i berfformio albym gysyniadol newydd Te yn y Grug yn ei chyfanrwydd ar noson gyntaf y daith i lansio’r albym. Dyma luniau o’r noson gofiadwy yn y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

On Friday 21st February 2020, Côr ABC joined Al Lewis and his band to perform his new concept album, Te yn y Grug, in its entirety on the opening night of the launch tour. Here are some photos of the memorable evening in the Great Hall at Aberystwyth Arts Centre.

Mae angen JavaScript ar y sioe sleidiau hon.

 

Codi £1,150 i elusen leol | £1,150 raised for local charity

Ry’n ni’n falch iawn o fod wedi codi £1,150 drwy roddion y gynulleidfa a ddaeth i’n cyngerdd Naw Llith a Charolau yn Eglwys Llanbadarn ym mis Rhagfyr. Rhoddwyd pob ceiniog i’r elusen leol, HAHAV, i gefnogi ei menter newydd i agor hosbis dydd yn Aberystwyth. Ry’n ni’n ddiolchgar iawn i bawb a gyfrannodd at ein casgliad.

Mewn ymarfer diweddar, ymunodd aelodau’r côr â’r cyfarwyddwr cerdd, Gwennan Williams, a’r cadeirydd, Ffion Wyn Bowen, i gyflwyno siec i Dr Alan Axford, cadeirydd HAHAV.

We are delighted to have raised £1,150 from audience donations at our Nine Lessons and Carols concert in Llanbadarn Church in December. Every penny has been donated to support local charity HAHAV’s venture to open a day hospice in Aberystwyth. We are grateful to everyone who contributed to our collection.

At a recent rehearsal, choir members joined musical director, Gwennan Williams, and chair, Ffion Wyn Bowen, to present the cheque to Dr Alan Axford, chair of HAHAV.

Cyflwyno siec i HAHAV