Côr ABC ar y bocs | Côr ABC on the box

Mae’r côr wedi bod yn eithriadol o brysur dros y misoedd diwethaf, ac mae’n bosib eich bod wedi ein gweld ni ar eich sgrin deledu yn ddiweddar!

Cafodd perfformiad y côr o ‘Gosber’ gan Andrew Cusworth ei ddarlledu yn ystod rhaglen Gŵyl Ddewi Dechrau Canu, Dechrau Canmol.

Bu’r côr hefyd yn cystadlu yn rownd gyn-derfynol Côr Cymru 2017 a ddarlledwyd ar S4C ddiwedd mis Mawrth.

Cafodd rhan o berfformiad y côr yn y gystadleuaeth ei darlledu ar Radio Cymru hefyd yn dilyn sgwrs rhwng Shân Cothi a’n harweinydd, Gwennan Williams, ar raglen Bore Cothi.

The last few months have been rather busy for the choir, and it’s possible you may have seen us on your television lately!

The choir’s performance of ‘Gosber’ by Andrew Cusworth was broadcast during the St. David’s Day episode of Dechrau Canu, Dechrau Canmol.

We also competed in the semi-final of Côr Cymru 2017, which was broadcast at the end of March on S4C.

Part of the choir’s performance in the competition was also played on Radio Cymru’s Bore Cothi programme, which featured an interview between Shân Cothi and our director, Gwennan Williams.

Côr Cymru 2017

IMG_2982 chrome ii

Roedd y côr yn falch iawn o gymryd rhan yng nghystadleuaeth Côr Cymru 2017, gan gystadlu yn rownd derfynol y corau cymysg gyda Chôrdydd, Côr CF1 a Chôr Dre.

Cafodd rownd y corau cymysg ei darlledu nos Sul, 26 Mawrth ar S4C.

The choir was pleased to take part in the Côr Cymru 2017 competition, competing in the mixed choir final alongside Côrdydd, CF1 and Côr Dre.

The mixed choir final was broadcast on Sunday, 26th March on S4C.

Côr Cymru 2017

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi ein bod wedi ein dewis i gymryd rhan yn rownd gyn-derfynol y corau cymysg yng nghystadleuaeth Côr Cymru 2017.

Cynhelir y rownd gyn-derfynol yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, nos Sul, 19 Chwefror.

We are pleased to announce that we have been selected to sing in the mixed choir semi-final of Côr Cymru 2017.

The semi-final will be held at the Arts Centre, Aberystwyth, on Sunday, 19th February.

Rhoddion Nadolig 2016 | Christmas 2016 Donations

Roedd hi’n braf iawn gweld cynifer o bobl yn ein cyngerdd Nadolig a gynhaliwyd yn Eglwys Llanbadarn Fawr yn gynharach y mis hwn. Roedd hi hefyd yn braf cael cyfle i rannu lluniaeth Nadoligaidd yn neuadd yr eglwys ar ôl y cyngerdd.

Roeddem yn falch o drosglwyddo rhodd o £500 a gasglwyd yn y cyngerdd i Gronfa Goffa Eifion Gwynne. Diolch yn fawr am eich rhoddion hael.

 

Roedd y côr hefyd yn falch o roi £50 i apêl ‘Anfonwch Anrheg‘ Bwrdd Iechyd Hywel Dda drwy gymryd rhan yn nigwyddiad Nadolig y Llyfrgell Genedlaethol.

It was great to see so many people at our concert in St Padarn’s Church, Llanbadarn Fawr earlier this month, and to share some seasonal refreshments in the church hall afterwards.

We were pleased to be able to make a donation of £500 collected at the concert to the Eifion Gwynne Memorial Fund. Thank you for your kind donations.

The choir was also pleased to donate £50 to Hywel Dda Health Board’s ‘Give a Gift‘ appeal through its participation at the National Library’s Christmas event.

Carolau yn y Llyfrgell Genedlaethol | Carols at the National Library

Heno, bydd Côr ABC yn canu carolau yn nigwyddiad ‘Dathlu’r Nadolig’ Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Byddwn ni’n canu detholiad o’n hoff garolau, a bydd cyfle i bawb ymuno â ni i ganu carol neu ddwy!

Tonight, Côr ABC will be singing at the National Library of Wales’ ‘Celebrate Christmas’ event. We will be singing a selection of our favourite carols, and there will also be an opportunity for all to join us to sing a carol or two!

Mae’r Nadolig yn dod | Christmas is coming

Mae’r côr yn edrych mlaen at fwrlwm y Nadolig!

Byddwn ni’n cynnal ein cyngerdd Nadolig nos Sul, 11 Rhagfyr yn Eglwys Llanbadarn. Cewch hyd i fwy o wybodaeth ar ein tudalen ‘Cyngerdd Nadolig’ o dan ‘Digwyddiadau’.

The choir is looking forward to the festive season!

Our Christmas concert will be held on Sunday, 11th December in Llanbadarn Church. Further information can be found on our ‘Christmas Concert’ page under ‘Events’.