Cwestiynau cyffredin

Pam ymuno â Chôr ABC?
Mae côr cymunedol fel Côr ABC yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd i greu cerddoriaeth, gan ddysgu amrywiaeth eang o ddarnau, datblygu’n gerddorol, datblygu techneg canu, a chymryd rhan mewn digwyddiadau amrywiol. Mae hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â ffrindiau newydd ac i gael hwyl bob wythnos yng nghwmni pobl eraill sydd wrth eu bodd yn canu!

Faint o aelodau sydd yn y côr?
Mae tua 30 o aelodau yn y côr ar hyn o bryd, a’r rheini mewn pedair adran – sopranos, altos, tenoriaid a baswyr. Ry’n ni bob amser yn croesawu aelodau newydd!

Ble mae’r côr yn ymarfer?
Mae’r côr yn ymarfer yn festri Capel y Morfa ar Stryd Portland yn Aberystwyth.

Pryd mae’r côr yn ymarfer?
Mae’r côr yn ymarfer bob nos Iau am 7.30pm. Mae’r ymarferion yn para hyd at ddwy awr.

Beth sy’n digwydd yn yr ymarferion?
Ar ddechrau pob ymarfer, ry’n ni’n gwneud ymarferion amrywiol, gan gynnwys ymarferion anadlu i ymlacio ac ymarferion lleisiol i dwymo’r llais a datblygu techneg dda wrth ganu. Wedyn, ry’n ni fel rheol yn dysgu darnau newydd, yn mireinio darnau i’w perfformio ac yn canu drwy ddarnau sy’n rhan o repertoire y côr. Ry’n ni’n gweithio’n galed ond ry’n ni hefyd yn cael tipyn o hwyl!

Pa fath o gerddoriaeth mae’r côr yn ei chanu?
Mae’r côr yn canu amrywiaeth eang o gerddoriaeth – o gerddoriaeth gynnar i gerddoriaeth gorawl gyfoes, ac o drefniannau o alawon gwerin i ganeuon adnabyddus Cymru. Mae’n canu mewn nifer helaeth o ieithoedd. Ewch i’r dudalen Repertoire i gael syniad o’r math o ddarnau sydd yn ein repertoire ar hyn o bryd.

Oes rhaid gallu darllen cerddoriaeth?
Mae’n ddefnyddiol os ydych chi’n gallu darllen cerddoriaeth, ond dydy pob un o’r aelodau ddim yn darllen cerddoriaeth. Os nad ydych chi’n darllen yn hyderus, mae’n siwr y byddwch yn magu hyder wrth ganu gyda’r côr. Rydyn ni’n aml yn darparu traciau sain i helpu’r aelodau i ddysgu’r nodau.

Oes rhaid dysgu llawer o ddarnau ar unwaith?
Mae’r côr yn dysgu darnau newydd o hyd. I wneud hyn, ry’n ni’n dysgu gyda’n gilydd, drwy fynd dros y nodau gyda’n gilydd yn yr ymarferion a thrwy ddefnyddio traciau sain os oes rhai ar gael.

Mae gan y côr hefyd repertoire helaeth o ddarnau ry’n ni’n eu defnyddio ar gyfer digwyddiadau amrywiol. Bydd cyfle i aelodau newydd ddysgu’r darnau hyn yn raddol drwy wrando a chanu gyda’r côr. Does dim disgwyl i aelodau newydd ddysgu popeth dros nos na pherfformio gyda’r côr nes eu bod yn teimlo’n barod.

Oes cyfle i gymdeithasu?
Oes! Mae ymuno â chôr yn ffordd wych o gwrdd â ffrindiau newydd. Mae nifer ohonom wedi ymuno â’r côr ar ôl symud i Aberystwyth a’r cyffiniau ac mae’n ffordd dda o ddod yn rhan o gymuned. Ry’n ni’n trefnu digwyddiadau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn, ac mae criw ohonom yn mynd i roi’r byd yn ei le dros ddiod ar ôl pob ymarfer.

Os oes gennych gwestiynau eraill, cysylltwch â ni!