Pam ymuno â Chôr ABC?
Mae côr cymunedol fel Côr ABC yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd i greu cerddoriaeth, gan ddysgu amrywiaeth eang o ddarnau, datblygu’n gerddorol, datblygu techneg canu, a chymryd rhan mewn digwyddiadau amrywiol. Mae hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â ffrindiau newydd ac i gael hwyl bob wythnos yng nghwmni pobl eraill sydd wrth eu bodd yn canu!
Fe wnaethon ni hefyd ofyn i’n haelodau pam eu bod nhw’n mwynhau canu gyda’r côr. Dyma rai o’u hatebion:
“Mae’r côr wedi helpu fi i gwrdd â phobl newydd, cymdeithasu, a gwneud ffrindiau newydd mewn lle newydd. Croeso cynnes, hwyl bob wythnos, cerddoriaeth go iawn, ac un o uchafbwyntiau’r wythnos.”
“Am gwpwl o oriau ar nos Iau, bob wythnos, dwi’n gallu ymgolli’n llwyr yn y gerddoriaeth, gan anghofio, am ychydig, am bob dim arall.”
“Mae nifer o resymau pam ‘mod i’n aelod, ond yr un penna yw’r dewis o gerddoriaeth safonol dan arweiniad deallus. Rwy’n teimlo bod y dewis o gerddoriaeth wedi siwtio fi i’r dim, ond ar yr un pryd, mae’n her sydd wedi helpu fi i ddatblygu’n lleisiol. Heb anghofio’r cymdeithasu difyr…!”
“Mwynhau’r gwmnïaeth, mwynhau’r her o ddysgu repertoire amrywiol, mwynhau’r pleser o glywed sain da y côr, a mwynhau peint ar ôl pob ymarfer. Rydyn ni hefyd yn ffodus bod gyda ni arweinydd a chyfeilydd o safon uchel iawn.”
Dewch i’n hymarferion agored drwy gydol mis Mai i wrando, i ganu ac i gael blas!