Amdanon ni | About us

Y côr

Ers ei sefydlu yn 1995, mae Côr ABC wedi datblygu o fod yn gôr ieuenctid i fod yn gôr cymysg cymunedol uchelgeisiol sy’n cefnogi bywyd cerddorol Aberystwyth a’r fro. Mae hefyd wedi cael cryn lwyddiant mewn cystadlaethau lleol a chenedlaethol, gan gyrraedd rownd derfynol y corau cymysg yng nghystadleuaeth Côr Cymru yn 2007, 2011, 2017 a 2019. Enillodd gystadleuaeth y corau cymysg yng Ngŵyl Fawr Aberteifi yn 2010, 2011 a 2018, gan gipio tlws Côr yr Ŵyl yn 2018.

Mae’r côr wedi comisiynu a pherfformio darnau newydd, gan gynnwys ‘Aberystwyth’ gan Hector MacDonald a ‘Gosber’ a ‘Gosod fi megis sêl’ gan Andrew Cusworth. Gallwch glywed recordiad o berfformiad cyntaf ‘Gosber’ ar waelod y dudalen, a gallwch hefyd glywed y côr yn canu ar ffilm lwyddiannus Gideon Koppel, ‘Sleep Furiously’.

Mae’r côr wedi recordio cryno ddisg o emynau’r Pasg ar gyfer cyfres o ddetholiadau a gyhoeddir gan Curiad. Lansiwyd y ddisg, Gŵyl y Pasg, mewn digwyddiad a gynhaliwyd yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth, ym mis Ebrill 2019.

Yn ddiweddar, bu’r côr yn perfformio gyda’r canwr-gyfansoddwr Al Lewis fel rhan o’i daith i lansio ei albym gysyniadol newydd, Te yn y Grug.

Yr arweinydd

Y cyfeilydd

Mae Louise Amery yn gerddor amryddawn a chanddi radd anrhydedd mewn cerddoriaeth o Brifysgol Cymru, Bangor. Mae’n gwneud cyfraniad cyfoethog i fywyd cerddorol Aberystwyth ac mae’n cyfeilio i Gôr ABC ers 2000.

The choir

Established in 1995 as a youth choir for the Aberystwyth area, Côr ABC has since developed into an ambitious mixed community choir that supports the musical life of Aberystwyth and its environs. The choir has been recognised in local and national competitions, and reached the mixed choir final of S4C’s choral competition, Côr Cymru, in 2007, 2011, 2017 and 2019. The choir won the mixed choir competition at Gŵyl Fawr Aberteifi, Cardigan’s annual festival of music and verse, in 2010, 2011 and 2018, and was named Choir of the Festival in 2018.

The choir has commissioned and performed new pieces, including ‘Aberystwyth’ by Hector MacDonald and ‘Gosber’ and ‘Gosod fi megis sêl’ by Andrew Cusworth. A recording of the première of ‘Gosber’ can be found at the bottom of the page, and the choir can also be heard singing on the soundtrack to the award-winning film, ‘Sleep Furiously’, by Gideon Koppel.

The choir has recorded a CD of Welsh Easter hymns for a series of compilations published by Curiad. The disc, Gŵyl y Pasg, was launched at an event held in Capel y Morfa, Aberystwyth in April 2019.

The choir has recently performed with singer-songwriter Al Lewis as part of his tour to launch his new concept album, Te yn y Grug.

The director

The accompanist

Louise Amery is a diverse and accomplished musician who graduated in music from the University of Wales, Bangor. She contributes greatly to the musical life of Aberystwyth and has been the accompanist of Côr ABC since 2000.